P-05-1126 Caniatáu chwaraeon wedi’u trefnu yn yr awyr agored ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed fel bod Cymru’n gweithredu yn unol â’r rheolau haen 4 yn Lloegr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Katharine Bradley, ar ôl casglu cyfanswm o 2,461 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae plant yng Nghymru wedi wynebu blwyddyn gythryblus iawn, gan orfod hunanynysu’n rheolaidd a cholli’r cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae chwaraeon yn rhan hynod bwysig o lesiant meddyliol a chorfforol. Caniateir sesiynau hyfforddi wedi’u trefnu yn Lloegr. Credwn y dylid caniatáu sesiynau o’r fath yng Nghymru hefyd. Mae iechyd corfforol yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd. Ein hamddiffyniad gorau yn erbyn y pandemig hwn ac unrhyw bandemig yn y dyfodol yw bod yn iach ac yn heini.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Casnewydd
· Dwyrain De Cymru